Location | Flintshire |
Job type | Permanent |
Salary | £50k per year |
Consultant | Jordan Seaman |
Call | 01473283507 |
Reference | FLINTSHIREFCTA |
Gall eich sgiliau yn yr ystafell ddosbarth drawsnewid bywyd person ifanc.
Dechreuwch eich taith fel Gofalwr Maeth Pontio Lleol heddiw.
Ydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, yn cefnogi plant mewn ysgolion fel cynorthwyydd addysgu, gweithiwr cymorth dysgu, neu mewn rôl fugeiliol?
Ydych chi erioed wedi meddwl am ddefnyddio eich profiad i newid bywyd person ifanc, trwy gynnig gofal a sefydlogrwydd yn eich cartref eich hun?
Gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, gallwch chi wneud hynny.
Mae gennych eisoes y rhinweddau sydd fwyaf pwysig: amynedd, anogaeth, a’r gallu i adeiladu perthnasoedd cryf, llawn ymddiriedaeth gyda phlant a phobl ifanc. Nawr, gallwch ddefnyddio’r sgiliau hynny lle mae eu hangen fwyaf: gan gynnig cartref cefnogol i berson ifanc yn ystod cyfnod allweddol yn eu bywyd.
Mae hyn yn fwy na maethu traddodiadol.
Dyma Faethu Pontio Lleol, ac efallai mai dyma fydd y rôl fwyaf ystyrlon gewch chi erioed.
Beth yw Maethu Pontio Lleol?
Mae ‘Lleol’ yn golygu bod o fewn eich ardal – ac mae aros yn lleol yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Nid asiantaeth faethu breifat ydym ni. Ni yw gwasanaeth maethu awdurdodau lleol Sir y Fflint, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar y plant a’r bobl ifanc yn ein cymunedau ni’n hunain.
Rydyn ni’n gweithio i ddod o hyd i’r cartrefi cywir, yma yn Sir y Fflint – gyda phobl fel chi.
Fel cynorthwyydd addysgu, rydych chi eisoes yn deall mor bwysig yw cysondeb, pethau cyfarwydd a rhwydwaith cefnogaeth cryf i blentyn. Mae maethu’n lleol yn caniatáu i bobl ifanc aros yn agos at eu hysgolion, eu ffrindiau, a’r bobl y maent yn ymddiried ynddynt, gan roi’r sefydlogrwydd sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Mae angen mwy na gofal maeth traddodiadol ar rai pobl ifanc.
Efallai eu bod yn camu i lawr o ofal preswyl neu leoliadau cymorth uchel, ac efallai y bydd angen amser, lle, a chefnogaeth fedrus ac amyneddgar arnyn nhw i addasu i fywyd teuluol.
Dyna lle gall eich profiad chi wneud gwahaniaeth go iawn.
Allech chi ddod yn Ofalwr Maeth Pontio Lleol?
Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o gefnogi plant, ac mae hynny’n cynnwys cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol cymorth dysgu fel chi.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’ch profiad chi ac sy’n gallu cynnig:
Pecyn llawn o gymorth sy’n adlewyrchu eich ymrwymiad
Rydym yn deall yr ymroddiad a’r sgiliau arbenigol y mae’r rôl hon yn gofyn amdanynt. Dyna pam rydyn ni’n darparu cymorth cynhwysfawr, lwfansau hael, a hyfforddiant wedi’i deilwra i’ch helpu i lwyddo.
A hefyd:
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
Rydym fel arfer yn gofyn nad oes gennych blant ifanc o dan 16 oed yn byw gartref, ond mae pob sefyllfa yn cael ei hystyried yn unigol yn rhan o’r broses baru.
Gwnewch wahaniaeth parhaol – yn y fan lle’r ydych chi’n byw.
Rydych chi eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn eich rôl o ddydd i ddydd.
Nawr, gallwch gael mwy fyth o effaith, ac effaith fwy personol, drwy gynnig sefydlogrwydd teulu i berson ifanc, ynghyd â chynhesrwydd perthyn, a dyfodol llawn gobaith.
Ni yw Maethu Cymru Sir y Fflint ac rydym yma i’n pobl ifanc, i’n cymuned, ac i chi.